TEITL |
Amserlen ar gyfer Gwneud Penderfyniad ynglŷn â’r M4 |
DYDDIAD |
30 Ebrill 2019 |
GAN |
Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru |
Fe fydd Aelodau yn ymwybodol fy mod wedi bod yn ystyried yn ofalus Adroddiad yr Arolygydd ynghyd â chyngor gan swyddogion ar Brosiect yr M4.
Rwy’n rhagweld y byddaf mewn sefyllfa i gyhoeddi fy mhenderfyniad ynghylch a ddylid gwneud y gorchmynion cyfreithiol sydd eu hangen er mwyn i’r prosiect fynd yn ei flaen yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Mehefin neu beidio.
Unwaith bydd y penderfyniad wedi’i gadarnhau, fe gyhoeddir llythyr yn amlinellu’n llawn y rhesymau dros y penderfyniad. Darperir dolen i fersiynau electronig o Adroddiad yr Arolygydd, yn y Gymraeg a’r Saesneg, ochr yn ochr â’r llythyr.